pixel

Cofleidio Cyfnod Newydd o Waith: Ffynnu yn y Dirwedd sy’n Esblygu

Newidiodd pandemig COVID-19 farchnad swyddi’r DU ar gyfer graddedigion. Symudodd llawer o gwmnïau i weithio o bell, gan gynnwys prosesau cyflogi. Er y dychwelodd rhai i swyddfeydd, gwelodd eraill fanteision gweithio o bell neu waith hybrid.

Mae’r newid hwn yn golygu y gall graddedigion wneud cais am swyddi yn unrhyw le, hyd yn oed yn rhyngwladol. Er enghraifft, gallai cwmni o Vancouver gyfweld ymgeiswyr o Gymru ar-lein, gan ddileu rhwystrau teithio.

Mae gwaith o bell yn hyrwyddo amrywiaeth, gan y gall mwy o bobl wneud cais, gan gynnwys y rhai na allent gymudo neu adleoli o’r blaen. Mae hefyd yn hyblyg, ac o fudd i’r rhai ag anableddau neu ddyletswyddau gofalu.

Nid yw gwaith o bell at ddant pawb. Efallai nad oes gennych adnoddau fel rhyngrwyd dda neu offer neu efallai eich bod chi’n chwilio am swydd sy’n gofyn am ryngweithio personol felly mae’n bwysig archwilio’ch opsiynau a dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i chi.

Mhorwood Cardiff Met 010921 15