Chi sy’n rheoli
Bydd yr e-Hwb yn eich galluogi i lywio heriau’r farchnad swyddi a darparu offer, adnoddau a gwybodaeth amhrisiadwy i’ch helpu i sicrhau cyflogaeth i raddedigion.
Mae ymchwil gan Universities UK yn amlygu gwerth mynd i brifysgol, gan gynnwys bod 74% o raddedigion Cymru yn dweud eu bod wedi dod o hyd i swydd sy’n adlewyrchu uchelgeisiau mewn llai na blwyddyn, diolch i’w haddysg prifysgol.
Beth allwch chi ei ddisgwyl?
Wedi’i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fe welwch lu o wybodaeth yma i’ch arfogi â’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.
Y nod yw adeiladu eich “hyder gyrfa” a’ch helpu i ddod yn nes at gael swydd raddedig ar ôl i chi adael y brifysgol. Gall eich timau cyflogadwyedd gynnig cyfleoedd gwerthfawr megis profiad gwaith, hyfforddi gyrfa, datblygu sgiliau, ac ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr ac maent wedi ymrwymo i’ch arwain ar hyd eich llwybr at lwyddiant.
Os ydych chi’n fyfyriwr o grŵp sy’n llai tebygol yn ystadegol o fynd i’r brifysgol ac yn chwilio am help i hybu eich hyder gyrfa, cysylltwch â ni.
Astudiaeth Achos
Prifysgol Abertawe
Bu myfyriwr BSc Ffarmacoleg Feddygol, Prinka Parm, o Brifysgol Abertawe a oedd y cyntaf yn ei theulu i fynychu’r brifysgol, o gefndir incwm isel ac o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig, yn ymwneud â’r prosiect Career Boost. Gyda dyheadau yn y maes meddygol, nododd Prinka ddiffyg cysylltiadau proffesiynol a phryder am gyfweliadau. Trwy’r prosiect, derbyniodd arweiniad wedi’i deilwra a chymorth ariannol ar gyfer y prawf GAMSAT a chymorth i brynu dillad parod ar gyfer gwaith.
Gyda chymorth cynghorydd, nododd Prinka ei chryfderau a meysydd i’w datblygu. Er gwaethaf ei gallu academaidd, nid oedd ganddi unrhyw brofiad proffesiynol blaenorol. Sicrhawyd lleoliad gwaith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn yr adran Microbioleg, lle cynhaliodd archwiliad amgylcheddol a rhwydweithio ag uwch weithwyr proffesiynol. Rhoddodd y lleoliad hwn hwb i’w hyder ac ehangodd ei rhwydwaith proffesiynol.
Ar ôl y lleoliad, bu’n myfyrio ar ei thwf, gan nodi sgiliau cyfathrebu gwell, yn enwedig gyda staff uwch. Cadarnhaodd y profiad ei chyfeiriad gyrfa ac amlygodd adborth gan ei chyflogwr ei pharodrwydd a’r potensial ar gyfer partneriaeth hirdymor yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith.
“Fe wnaeth y lleoliad hwn wella fy sgiliau arwain a chyfathrebu. Rydw i nawr yn teimlo fy mod yn barod ar gyfer rolau yn y dyfodol yn fy maes dewisol. Gwnewch gysylltiadau yn ystod lleoliadau; maen nhw’n amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.”