Mae ymchwil newydd gan Universities UK (UUK) wedi bwrw golau newydd ar yr effaith anhygoel mae addysg uwch yn ei gael ar raddedigion sydd gyntaf yn eu teulu i fynychu’r brifysgol. Os wyt ti’n un o’r rhain, darllena i ddeall sut mae prifysgol nid yn unig yn hwb i hyder ond hefyd yn dy helpu i ymladd syndrom y ffugiwr y mae myfyrwyr sydd yn mynd i’r brifysgol gyntaf yn eu hwynebu.
Goresgyn syndrom y ffugiwr
Mae’r astudiaeth gan UUK yn dangos fod bron i dri chwarter (73%) o raddedigion ‘cyntaf-yn-y-teulu’ (CyyT) yn credu bod eu profiad yn y brifysgol wedi rhoi hyder iddynt geisio am swyddi heb deimlo fel ffugwyr. Mae hyn yn fater o bwys, yn enwedig gan fod 65% o’r myfyrwyr a ofynnwyd wedi dweud eu bod wedi oedi cyn mynd i’r brifysgol oherwydd syndrom y ffugiwr. Fe wnaeth amgylchedd y brifysgol eu helpu i adeiladu hyder ac i deimlo’n fwy galluog mewn cyd-destunau proffesiynol.
Yr angen am gymorth ariannol
Un o’r pwyntiau mwyaf trawiadol yn yr ymchwil yw’r angen dirfawr am gefnogaeth ariannol. Hebddo, byddai pedwar mewn deg (41%) o raddedigion CyyT heb fod wedi gallu fforddio mynd i’r brifysgol. Mae hynny’n oddeutu 1.1 miliwn o bobl rhwng 24-40 yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cymorth ariannol er mwyn sicrhau fod addysg uwch yn hygyrch.
Twf personol a phroffesiynol uwch
Mae manteision addysg prifysgol yn ymestyn tu hwnt i gyrhaeddiad academaidd i fyfyrwyr CyyT. Nododd 78% o’r rheini a ofynnwyd gynnydd yn eu hunan hyder, a dywedodd nifer fod eu profiadau prifysgol wedi eu gwneud yn fwy uchelgeisiol yn broffesiynol (74%) ac wedi eu hannog i ehangu eu hamcanion bywyd (72%). I 28% o raddedigion – a bron i draean o raddedigion CyyT (30%) – mynd i’r brifysgol oedd y penderfyniad gorau iddynt wneud erioed.
Heriau rhwystrau ariannol
Er y buddiannau sylweddol, mae rhwystrau ariannol yn her sylweddol. Mae costau byw, costau preswyl a chwyddiant cynyddol yn ofid mawr i fyfyrwyr arfaethedig. Fe wnaeth ymchwil UUK ddangos fod myfyrwyr CyyT yn fwy tebygol o ddibynnu ar fwrsarïau prifysgol ac yn llai tebygol o dderbyn cymorth ariannol teuluol o gymharu â’u cyfoedion.
——————————————————————————————————————
Yn seiliedig ar ymchwil o Universities UK, mae’r erthygl hwn yn ymgais i fwrw golwg ar yr effaith sylweddol y mae addysg prifysgol yn ei gael ar raddedigion ‘cyntaf-yn-y-teulu’, gan ddathlu eu llwyddiannau a dadlau o blaid cymorth angenrheidiol i barhau i wneud addysg uwch yn hygyrch ac o fudd i bawb.