pixel

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Gorffennaf 8, 2024
Rising Salaries And The Impact Of Inflation

Beth am gymryd golwg ar rywbeth sydd ar feddwl pawb: cyflogau. Er yr heriau economaidd parhaus, mae tueddiadau diweddar yn dangos fod disgwyliadau cyflog yn cynyddu. Mae’r erthygl hon yn archwilio beth sy’n gyrru’r tueddiadau hyn, gan edrych yn benodol ar effaith chwyddiant a gwahaniaethau rhanbarthol mewn twf cyflogau.

Deall y twf yn nisgwyliadau cyflog

Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth y gyfradd twf cyflogau yn y sector breifat gyrraedd 8.1% rhwng mis Mai a Gorffennaf 2023. Mae hynny’n naid sylweddol, gan ddangos fod busnesau yn gorfod camu i’r adwy mewn marchnad swyddi cystadleuol. Eto, mae chwyddiant yn llyncu’r cynnydd hwnnw. Felly, er bod cyflogau yn codi, mae’r cynnydd gwirioneddol yn yr hyn yr wyt yn gallu ei brynu ddim mor syfrdanol o ystyried sut y mae prisiau’n codi hefyd. Mae’n bwysig fod graddedigion yn gwybod hyn. Ar gyfartaledd y cyflog cychwynnol ar gyfer graddedigion yw £38,500. Eto, paid â chael dy dwyllo gan y ffigwr hwn – mae yna lot o amrywiaeth ar draws diwydiannau ac ardaloedd gwahanol – o £16,000 mewn meysydd megis Newyddiaduraeth a’r Celfyddydau, i £90,000 ym meysydd Bancio neu Gyfrifiadureg. Mae gwahaniaethau o’r fath yn tanlinellu pwysigrwydd dewis diwydiant, enw da’r cyflogwyr, cystadleuaeth yn y farchnad swyddi a ffactorau daearyddol wrth siapio cyflog posib.

Effaith chwyddiant ar dwf cyflog go iawn

Ers y pandemig, mae chwyddiant wedi bod yn gyrru costau byw’n uwch, yn enwedig mewn meysydd hanfodol megis ynni a bwyd. Hyd yn oed ar ôl derbyn cynnydd cyflog sylweddol, maen bosib nad yw gwerth gwirioneddol yr hyn yr wyt yn ei ennill yn ymestyn mor bell a byset yn ei obeithio. Mae’n hanfodol i edrych tu hwnt i’r prif ffigurau ac i ddeall pŵer prynu dy gyflog.

Amrywiaeth twf cyflog: Bwrw golwg ar Gymru

Dyma ychydig o newyddian da i’r rheini ohonoch chi sy’n gobeithio aros a gweithio yng Nghymru: mae’r cynnydd mewn cyflogau yma’n gynt na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae hyn yn arwydd positif ac yn dangos y gall Cymru fod yn cynnig marchnad swyddi mwy ffafriol o gymharu ag ardaloedd eraill o’r DU. Gall amodau economaidd unigryw Cymru fod yn creu gwell cyfleoedd ar gyfer twf cyflog uwch.

Y ffordd ymlaen

Wrth i ddisgwyliadau cyflog gadw i gynyddu, mae cyflogwyr a gwneuthurwyr polisi angen cadw golwg ar effaith go iawn chwyddiant a’r gwahaniaethau mewn twf cyflog ar draws wahanol ranbarthau. I fyfyrwyr a graddedigion fel ti, mae cadw dy hun yn hyddysg yn y tueddiadau hyn yn allweddol er mwyn gwneud dewisiadau gyrfa doeth. Tra bod angen i gyflogwyr ganfod cydbwysedd rhwng cynnig cyflogau cystadleuol a chynnal gweithdrefnau busnes cynaliadwy i lwyddo yn y tirlun economaidd newidiol hwn.

Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio data ac adroddiadau diweddar, gan geisio trosolwg trylwyr o dueddiadau cyflog y DU ac effaith hyn ar y gweithlu. Wrth i’r sefyllfa ddatblygu, bydd monitro cyson ac addasu yn allweddol er mwyn cysoni strategaethau cyflog a’r realiti economaidd.

Ffynonellau:

  1. Analysis of wage and price increases, DU – Swyddfa Ystadegau Gwladol.
  2. BBC News – Erthyglau ar dueddiadau economaidd a thwf cyflog diweddar.
  3. ADP Research Institute – Mwenwelediadau ar ddisgwyliadau codiad cyflog yn y DU.
  4. Save the Student – Cyflogau graddedigion ar gyfartaledd yn y DU 2024.

Am fwy o wybodaeth a diweddariadau cyson ynghylch tueddiadau cyflogaeth, ymwelwch a Employability Wales yn gyson.

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Os wyt ti’n dechrau meddwl am yr hyn yr hoffet ei wneud ar ôl cwblhau dy gwrs, dyma bach o newyddion da. Yn ôl adroddiad “Jobs of the Future” Universities UK, mae disgwyl i’r galw am raddedigion prifysgol yng Nghymru gynyddu’n sylweddol erbyn 2035, yn unol â...

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Mae’r defnydd o offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT yn dod yn fwy cyffredin yng nghyd-destunau academaidd a proffesiynol. Dengys arolwg gan Cibyl o fis Mai 2023 sut y mae myfyrwyr ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, yn defnyddio ChatGPT i’w cynorthwyo gyda’u...

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Os hoffet ti wybod mwy am y farchnad swyddi i fyfyrwyr prifysgol yn 2024, mae Ymchwil Graddedigion Cibyl 2024 a nifer o fewnwelediadau defnyddiol. Mae yna amrywiaeth o ffactorau i’w hystyried, wedi eu siapio gan bwysau economaidd, esblygiad dyheadau gyrfa a...

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Oes gennyt ddiddordeb mewn darganfod mwy ynghylch y farchnad swyddi i raddedigion prifysgol yng Nghymru? Bydd y cipolwg hwn yn rhoi syniad da i ti o’r sefyllfa. Mae Ymchwil Graddedigion Cybil 2024 yn darparu mewnwelediadau diddorol i’r modd y mae myfyrwyr yng Nghymru...