pixel

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Mehefin 24, 2024
Graduate Outlook In Wales

Oes gennyt ddiddordeb mewn darganfod mwy ynghylch y farchnad swyddi i raddedigion prifysgol yng Nghymru? Bydd y cipolwg hwn yn rhoi syniad da i ti o’r sefyllfa. Mae Ymchwil Graddedigion Cybil 2024 yn darparu mewnwelediadau diddorol i’r modd y mae myfyrwyr yng Nghymru fel ti yn gweld cyfleoedd swyddi ynghyd a disgwyliadau cyflog a’r hyn y maent yn ffafrio o ran lleoliad eu gwaith. Yma byddwn yn cymryd cip ar brif bwyntiau’r ymchwil gan weld beth yw’r sefyllfa i raddedigion yng Nghymru.

Optimistiaeth marchnad swyddi

Y newyddion da yw bod myfyrwyr Cymru yn teimlo’n reit bositif am eu gallu i gael swydd ar ôl prifysgol. Yn ôl yr ymchwil, mae 62% o fyfyrwyr yng Nghymru yn credu bod canfod swydd raddedig yn dasg heriol, ond mae hynny’n well na’r cyfartaledd cenedlaethol o 67%. Mae’r optimistiaeth hwn o bosib yn adlewyrchu agwedd tuag at y farchnad swyddi sydd yn fwy calonogol neu efallai yn arwydd bod mwy o hyder ymysg myfyrwyr Cymru ynghylch eu cymwysterau ac effeithlonrwydd gwasanaethau gyrfaol eu prifysgolion.

Cynnydd mewn disgwyliadau cyflog

O ran cyflog, mae gan dy gyd-fyfyrwyr yng Nghymru obeithion mawr. Mae disgwyliadau cyflog yn tyfu’n gynt na’r cyfartaledd cenedlaethol. Gall hyn fod wedi ei ddylanwadu gan sawl peth, gan gynnwys amgylchiadau marchnad swyddi cadarnhaol, sectorau cystadleuol megis technoleg a gwasanaethau cyhoeddus yn denu talent drwy gyflogau uwch, neu gynnydd cyffredinol mewn costau byw yn arwain at alw am gyflog uwch.

Symudedd a dewisiadau daearyddol

Er bod yr ymchwil yn dangos fod nifer o fyfyrwyr Cymru fel ti yn barod i symud i unrhyw le yn y DU ar gyfer y swydd iawn, mae’n well gan nifer i aros yng Nghymru ar ôl graddio. Gall hyn fod achos cyfleoedd swyddi da yn lleol, dewisiadau o ran ffordd o fyw, neu ymdrechion i gadw graddedigion yn lleol. Ynghyd a hyn, mae yna hefyd garfan o raddedigion sy’n dewis symud tu hwnt i Gymru, gan adlewyrchu dyheadau a llwybrau gyrfaol amrywiol y boblogaeth o raddedigion yma.

Dewisiadau sector

Mae’r sector gyhoeddus yn ddeniadol iawn i raddedigion Cymru, gyda thri ym mhob deg o fyfyrwyr a diddordeb yn y maes. Mae’n debygol fod hyn oherwydd bod y sector gyhoeddus yn cynnig swyddi sefydlog a’r cyfle i gael dylanwad ar gymdeithas ac o ganlyniad i raglenni llywodraeth sy’n annog gweithwyr proffesiynol i ymuno. Mae’r diwydiant technoleg hefyd yn ddewis poblogaidd, yn enwedig ymysg myfyrwyr benywaidd yng Nghymru. Mae’r tueddiad hwn yn cyfateb a phatrymau byd eang sy’n canolbwyntio ar sgiliau technoleg ac yn tanlinellu cryfderau a meysydd blaenoriaeth y sector addysg yng Nghymru.

Diddordebau penodol oddi fewn i’r diwydiant technoleg

Tra bod gofyn mawr i lenwi swyddi gwyddor data ar draws y DU, mae myfyrwyr Cymru yn benodol o eiddgar i ddod yn ddatblygwyr stac-llawn ac yn arbenigwyr diogelwch gwybodaeth. Mae hyn yn dangos fod prifysgolion Cymru yn gwneud gwaith gwych yn y meysydd yma a bod yna gyfleoedd lleol a phosibiliadau rhwydweithio yn y parthau technolegol hyn.

Tirlun dynamig i raddedigion yng Nghymru

I grynhoi, mae’r tirlun i raddedigion yng Nghymru yn gymysgedd o optimistiaeth, disgwyliadau uchel o ran cyflog, ac awch i aros yn lleol, er bod nifer yn barod i ystyried cyfleodd ar draws y DU. Ymddengys fod graddedigion Cymru wedi eu paratoi’n dda i fynd i’r afael a marchnad swyddi cystadleuol gyda’r sgiliau cywir a gweledigaeth glir o lwybrau eu gyrfaoedd.

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar fewnwelediadau Ymchwil Graddedigion Cybil 2024 ac yn darparu golwg ar gyflwr presennol a theimladau myfyrwyr prifysgol yng Nghymru. Mae’n tanlinellu tueddiadau sy’n gosod myfyrwyr Cymru ar wahân i’w cyd-fyfyrwyr mewn mannau eraill yn y DU yn nhermau cyfleoedd swyddi, blaenoriaethau sector a symudedd daearyddol.

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Os wyt ti’n dechrau meddwl am yr hyn yr hoffet ei wneud ar ôl cwblhau dy gwrs, dyma bach o newyddion da. Yn ôl adroddiad “Jobs of the Future” Universities UK, mae disgwyl i’r galw am raddedigion prifysgol yng Nghymru gynyddu’n sylweddol erbyn 2035, yn unol â...

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Mae’r defnydd o offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT yn dod yn fwy cyffredin yng nghyd-destunau academaidd a proffesiynol. Dengys arolwg gan Cibyl o fis Mai 2023 sut y mae myfyrwyr ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, yn defnyddio ChatGPT i’w cynorthwyo gyda’u...

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Beth am gymryd golwg ar rywbeth sydd ar feddwl pawb: cyflogau. Er yr heriau economaidd parhaus, mae tueddiadau diweddar yn dangos fod disgwyliadau cyflog yn cynyddu. Mae’r erthygl hon yn archwilio beth sy’n gyrru'r tueddiadau hyn, gan edrych yn benodol ar effaith...

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Os hoffet ti wybod mwy am y farchnad swyddi i fyfyrwyr prifysgol yn 2024, mae Ymchwil Graddedigion Cibyl 2024 a nifer o fewnwelediadau defnyddiol. Mae yna amrywiaeth o ffactorau i’w hystyried, wedi eu siapio gan bwysau economaidd, esblygiad dyheadau gyrfa a...