pixel

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Gorffennaf 22, 2024
The Role Of Chat Gpt

Mae’r defnydd o offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT yn dod yn fwy cyffredin yng nghyd-destunau academaidd a proffesiynol. Dengys arolwg gan Cibyl o fis Mai 2023 sut y mae myfyrwyr ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, yn defnyddio ChatGPT i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau a cheisiadau swydd. Beth am fwrw golwg ar oblygiadau hyn i ti, a’r modd y mae’r defnydd o’r offer hwn yn esblygu mewn addysg a’r byd gwaith.

Defnyddio ChatGPT mewn cyd-destun academaidd

Yn ôl yr arolwg, mae 50% o fyfyrwyr yn defnyddio ChatGPT ar gyfer eu hastudiaethau. Maent yn ei ddefnyddio i wneud gwaith ymchwil (51%), cwblhau aseiniadau gwaith cwrs (47%), a hyd yn oed yn ystod arholiadau (31%). Mae myfyrwyr yn gweld ChatGPT yn neilltuol o ddefnyddiol i gyflymu’r broses ymchwilio ac er mwyn cynhyrchu pynciau trafod. Ochr arall hyn yw eu bod hefyd yn ymwybodol o’i gyfyngiadau a’i duedd achlysurol i fod yn anghywir.

Adroddiad Turnitin ar gynnwys a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial

Mae ymchwil diweddar gan Turnitin, y platfform cyflwyno gwaith a gwirio llen ladrad yr wyt yn siŵr o fod yn gyfarwydd ag ef, yn gwella ein dealltwriaeth ymhellach. Mae eu canfyddiadau yn dangos o’r tua 200 miliwn o bapurau a gyflwynwyd, roedd mwy na 22 miliwn ag o leiaf 20% o’r cynnwys wedi ei gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial. Fe wnaeth offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Trunitin, a lansiwyd ym mis Ebrill 2023, ganfod fod 11% o fyfyrwyr wedi cyflwyno gwaith o’r fath, gyda thua 3% o bapurau wedi eu ffurfio o 80% o gynnwys deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn dangos y defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial mewn gwaith academaidd a’r heriau mae hyn yn ei gyflwyno.

Defnydd ChatGPT wrth wneud ceisiadau swyddi ac yn y broses recriwtio

Os wyt ti yng nghanol gwneud ceisiadau ar gyfer swyddi neu leoliadau, mae’n siŵr y bydd gennyt ddiddordeb mewn clywed fod bron i hanner myfyrwyr (47%) yn dweud y byddent yn defnyddio ChatGPT ar gyfer llenwi ffurflenni ceisiadau swyddi. Mae nifer hefyd yn fodlon i’w ddefnyddio ar wahanol adegau o’r broses recriwtio, gan gynnwys mewn profion ar-lein (39%), mewn cyfweliadau (37%) ac mewn canolfannau asesiad (38%). Mae’r tueddiad hwn yn dangos sut y mae myfyrwyr yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial i ymgodymu a phrosesau cymhleth ceisiadau swyddi.

Ond bydd yn ofalus! Mae canfyddiadau diweddar o’r Institute of Student Employers yn dangos fod dros 90% o geiswyr swyddi bellach yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial megis ChatGPT i wella eu ceisiadau swyddi. Gan fod mwy o ymgeiswyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i fireinio’u CV a’u ceisiadau, mae’n anoddach i gyflogwyr wahaniaethu rhwng ymgeiswyr sy’n arwain yn ei dro at werthfawrogiad newydd o ddulliau asesu traddodiadol wyneb yn wyneb yn ystod y broses cyflogi.

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial barhau i esblygu, bydd hi’n hanfodol i ti i wella dy sgiliau creiddiol megis cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a dy allu rhyngbersonol. Mae’r sgiliau hyn yn dyngedfennol mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb, lle mae’r modd yr wyt yn rhyngweithio yn gallu cael effaith sylweddol a dy helpu di i ymgysylltu a chyflogwyr posib. Felly, er bod deallusrwydd artiffisial yn gallu dy ganiatáu i greu cais da, paid dibynnu arno’n ormodol. Mae canolbwyntio ar gyfathrebu uniongyrchol ac arddangos dy bersonoliaeth yn ystod cyfweliadau yn gallu dy helpu i sefyll ar wahân i’r dorf mewn marchnad swyddi cystadleuol.

Barn myfyrwyr am ChatGPT

Roedd y mwyafrif o’r myfyrwyr a ofynnwyd yn gweld ChatGPT mewn modd cadarnhaol, gyda 55% yn dweud ei fod yn gwneud bywyd yn haws. Eto, mae yna ofidion ynghylch ei dueddiadau a chywirdeb y wybodaeth mae’n ei ddarparu. Yn ddigon diddorol, dywedodd 53% o’r myfyrwyr eu bod yn cefnogi rhyw fath o oruchwyliaeth neu reoleiddio o offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT.

Mewnwelediadau demograffeg

Roedd yr arolwg yn cynnwys ymatebion o 647 o fyfyrwyr o wahanol brifysgolion y DU, yn cynnwys amryw o grwpiau demograffeg. Myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a myfyrwyr du oedd y rhai mwyaf tebygol i ddefnyddio ChatGPT. Er na amlinellwyd data penodol am Gymru, roedd myfyrwyr o brifysgolion Cymru wedi eu cynnwys, sy’n awgrymu defnydd helaeth o offer deallusrwydd artiffisial yng Nghymru.

Goblygiadau hyn oll i brifysgolion a chyflogwyr Cymru

Mae gan brifysgolion a chyflogwyr Cymru gyfle gwych i integreiddio deallusrwydd artiffisial ymhellach yn eu cwricwlwm a’u prosesau recriwtio. Drwy addasu dulliau dysgu i gynnwys cymwysterau deallusrwydd artiffisial a deall ei ddefnydd mewn ceisiadau swydd, fe allent baratoi myfyrwyr yn well ar gyfer gofynion newidiol y gweithlu.

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar arolygon diweddar Cibyl ac yr Institute of Student Employers, yn adlewyrchu ar y rôl sylweddol y mae ChatGPT yn ei gael ar addysg a chyflogaeth, gan ddangos ei fanteision a’r heriau a gyflwynir ganddo. Wrth i dirlun offer digidol esblygu, mae deall eu heffaith yn hanfodol i raddedigion yn y sectorau addysgiadol a chyflogaeth.

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Os wyt ti’n dechrau meddwl am yr hyn yr hoffet ei wneud ar ôl cwblhau dy gwrs, dyma bach o newyddion da. Yn ôl adroddiad “Jobs of the Future” Universities UK, mae disgwyl i’r galw am raddedigion prifysgol yng Nghymru gynyddu’n sylweddol erbyn 2035, yn unol â...

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Beth am gymryd golwg ar rywbeth sydd ar feddwl pawb: cyflogau. Er yr heriau economaidd parhaus, mae tueddiadau diweddar yn dangos fod disgwyliadau cyflog yn cynyddu. Mae’r erthygl hon yn archwilio beth sy’n gyrru'r tueddiadau hyn, gan edrych yn benodol ar effaith...

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Os hoffet ti wybod mwy am y farchnad swyddi i fyfyrwyr prifysgol yn 2024, mae Ymchwil Graddedigion Cibyl 2024 a nifer o fewnwelediadau defnyddiol. Mae yna amrywiaeth o ffactorau i’w hystyried, wedi eu siapio gan bwysau economaidd, esblygiad dyheadau gyrfa a...

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Oes gennyt ddiddordeb mewn darganfod mwy ynghylch y farchnad swyddi i raddedigion prifysgol yng Nghymru? Bydd y cipolwg hwn yn rhoi syniad da i ti o’r sefyllfa. Mae Ymchwil Graddedigion Cybil 2024 yn darparu mewnwelediadau diddorol i’r modd y mae myfyrwyr yng Nghymru...