pixel

Tueddiadau’r farchnad swyddi myfyrwyr yn 2024

Gorffennaf 1, 2024
Uk Student Job Market Trends May 2024

Os hoffet ti wybod mwy am y farchnad swyddi i fyfyrwyr prifysgol yn 2024, mae Ymchwil Graddedigion Cibyl 2024 a nifer o fewnwelediadau defnyddiol. Mae yna amrywiaeth o ffactorau i’w hystyried, wedi eu siapio gan bwysau economaidd, esblygiad dyheadau gyrfa a blaenoriaethau lleol, felly beth am gymryd golwg ar yr hyn sy’n digwydd.

Pwysau economaidd a disgwyliadau cyflog

Mae’r argyfwng costau byw wedi bwrw myfyrwyr ar draws y DU yn yr un modd a phawb arall, gan eu gwthio i ystyried disgwyliadau cyflog fwyfwy. Ar ôl naid sylweddol o 15% yn 2023, mae pethau wedi distewi i raddau yn 2024, ond mae dal disgwyliadau uchel. Mae hyn yn dangos fod graddedigion yn blaenoriaethu sicrwydd ariannol wrth ddewis eu gyrfaoedd, sy’n gwneud synnwyr o ystyried yr heriau economaidd y mae pawb yn eu hwynebu.

Rhagolwg ar y farchnad swyddi a hyder myfyrwyr

Mae dau draean o’r myfyrwyr prifysgol wnaeth ymateb i’r arolwg yn credu y bydd canfod swydd eleni yn anodd, yn enwedig rheini yn eu blwyddyn olaf. Mae’r pryder cynyddol hwn yn adlewyrchu pa mor gystadleuol yw’r farchnad swyddi ac o bosib y bwlch sy’n bodoli rhwng sgiliau myfyrwyr a gofynion cyflogwyr. Y newyddion da yw bod myfyrwyr fel ti yng Nghymru yn dangos mwy o optimistiaeth ynghylch eu cyfleoedd gyrfa graddedig o gymharu â’u cyd-fyfyrwyr yng ngweddill y DU, yn enwedig y rheiny sydd yn eu blwyddyn gynderfynol.

Blaenoriaethau sector

Er bod yna gwymp mewn diddordeb wedi bod yn ddiweddar, mae technoleg dal yn un o’r sectorau mwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr y DU. Mae’r diddordeb parhaus hwn yn dangos fod technoleg yn cael ei weld fel sector a photensial mawr i dyfu ac i arloesi, er yr heriau mae myfyrwyr yn eu hwynebu i ateb y gofynion technegol y diwydiant. Gall mynd i’r afael a’r bylchau hyder hyn fod yn allweddol i wireddu potensial llawn y farchnad swyddi technolegol felly siarada gyda dy Dîm Cyflogadwyedd os hoffet ti ganfod mwy o wybodaeth.

Cynllunio gyrfa gynnar a blaenoriaethau daearyddol

Mae bron i hanner (46%) o’r myfyrwyr blwyddyn gyntaf a ofynnwyd heb ddechrau meddwl am eu gyrfaoedd graddedig eto, sy’n dangos angen ar gyfer cymorth a chynllunio gyrfaol cynt. O ran lle yr hoffent weithio, Llundain yw’r dewis mwyaf poblogaidd o hyd, gan bwysleisio rôl y ddinas fel hwb ar gyfer cyfleoedd graddedigion. Ar y llaw arall, mae myfyrwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn fodlon i symud o gwmpas ac ystyried cyfleoedd ar draws y DU, eto mae yna nifer sylweddol sydd eisiau aros yng Nghymru.

Addasu i dirlun newidiol

Wrth i fyfyrwyr y DU lywio’u ffordd drwy farchnad swyddi sydd yn cael ei siapio gan gyfyngiadau economaidd, gwahaniaethau lleol a newidiadau mewn gwahanol sectorau, mae’r angen ar gyfer cymorth a chyfarwyddyd gyrfaol cryf yn fwy pwysig nac erioed. Mae prifysgolion a gwasanaethau cyflogadwyedd a gyrfaol yng Nghymru yn addasu, gan gynnig cymorth wedi ei dargedu i helpu myfyrwyr fel ti i adeiladu sgiliau, hybu hyder ac i aros yn ymwybodol o gyfleoedd, gan sicrhau eu bod yn ddigon parod i fod yn rhan o farchnad swyddi cystadleuol. Mae’r e-Hwb yn enghraifft dda o sut y mae prifysgolion Cymru yn dod ynghyd i helpu eu myfyrwyr a darparu cymorth ychwanegol.

——————————————————————————————————————

Mae’r erthygl hon yn defnyddio’r tueddiadau a’r ystadegau diweddaraf o Ymchwil Graddedigion 2024 Cibyl i ddarparu trosolwg treiddgar o’r heriau a chyfleoedd sy’n wynebu myfyrwyr prifysgol y DU yn 2024. Mae deall yr agweddau hyn yn hanfodol i randdeiliaid ar draws y sectorau addysg a swyddi i wella cymorth i fyfyrwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau addysgedig ynghylch eu gyrfaoedd.

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Y galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol erbyn 2035

Os wyt ti’n dechrau meddwl am yr hyn yr hoffet ei wneud ar ôl cwblhau dy gwrs, dyma bach o newyddion da. Yn ôl adroddiad “Jobs of the Future” Universities UK, mae disgwyl i’r galw am raddedigion prifysgol yng Nghymru gynyddu’n sylweddol erbyn 2035, yn unol â...

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Rôl ChatGPT mewn addysg uwch a’r byd gwaith

Mae’r defnydd o offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT yn dod yn fwy cyffredin yng nghyd-destunau academaidd a proffesiynol. Dengys arolwg gan Cibyl o fis Mai 2023 sut y mae myfyrwyr ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, yn defnyddio ChatGPT i’w cynorthwyo gyda’u...

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Cyflogau cynyddol ac effaith chwyddiant

Beth am gymryd golwg ar rywbeth sydd ar feddwl pawb: cyflogau. Er yr heriau economaidd parhaus, mae tueddiadau diweddar yn dangos fod disgwyliadau cyflog yn cynyddu. Mae’r erthygl hon yn archwilio beth sy’n gyrru'r tueddiadau hyn, gan edrych yn benodol ar effaith...

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Rhagolygon i raddedigion yng Nghymru: Cipolwg

Oes gennyt ddiddordeb mewn darganfod mwy ynghylch y farchnad swyddi i raddedigion prifysgol yng Nghymru? Bydd y cipolwg hwn yn rhoi syniad da i ti o’r sefyllfa. Mae Ymchwil Graddedigion Cybil 2024 yn darparu mewnwelediadau diddorol i’r modd y mae myfyrwyr yng Nghymru...