Gan bwysleisio’r pethau cadarnhaol, mae adran hon yr e-Hwb yn cael cryfder gan adroddiad diweddar gan Brifysgolion Cymru sy’n nodi bod 74% o fyfyrwyr wedi sicrhau’r swydd a ddymunir, diolch i’w haddysg prifysgol.
Datrys problemau yn y byd go iawn:
Mae prifysgolion a cholegau yn galluogi myfyrwyr i brofi ymarferion datrys problemau yn y byd go iawn ac astudiaethau achos. Mae’r profiad ymarferol hwn yn miniogi eich gallu i drosi gwybodaeth ddamcaniaethol yn atebion ymarferol yn effeithlon ac yn effeithiol.
Addasrwydd:
Os ydych chi’n fyfyriwr sydd wedi gorfod ymdopi â newid mewn amgylchiadau ac ansicrwydd, rydych chi eisoes wedi dechrau datblygu gallu unigryw i addasu. Trwy ddysgu sut i addasu i sefyllfaoedd newydd a chroesawu heriau newydd, rydych chi’n dangos eich gallu i addasu i’r sefyllfa rydych chi ynddi.
Sylw i fanylion:
Mae rhai myfyrwyr yn dangos gallu rhyfeddol ar gyfer tasgau sy’n canolbwyntio ar fanylion, gan ragori ar ganfod gwallau ac anghysondebau y gallai eraill eu hanwybyddu, gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd.
Gwerth amrywiaeth:
Mae eich cyflogi fel myfyriwr o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol yn ychwanegu mwy nag amrywiaeth yn unig. Mae’n chwistrellu creadigrwydd, yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau, ac yn ehangu dealltwriaeth o farchnadoedd amrywiol.
Datrys gwrthdaro:
Ydych chi erioed wedi gorfod delio ag anghytundebau? Os felly, rydych eisoes wedi dechrau datblygu sgiliau datrys gwrthdaro.
Cymhwysedd diwylliannol:
Mae myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn aml yn dangos cymhwysedd diwylliannol a gallant lywio gwahanol ddiwylliannau yn rhwydd, gan hyrwyddo cydweithio a dealltwriaeth effeithiol.
Meithrin undod:
Fel myfyriwr o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol, gall eich persbectif unigryw fod yn gatalydd ar gyfer undod. Mae’r syniadau a’r profiadau amrywiol a ddaw gyda chi, yn cyfoethogi trafodaethau, yn gwella prosesau datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
Talent amrywiol:
Mae myfyrwyr o grwpiau sy’n llai tebygol o fynychu’r brifysgol yn aml yn dod â safbwyntiau unigryw a gwytnwch a all helpu i yrru sefydliadau ymlaen. Nid yw eich cefndir yn fesur o’ch sgiliau, galluoedd ac ymroddiad, ond yn sbardun ar gyfer syniadau ac atebion arloesol.
Empathi sy’n cysylltu:
Mae rhai myfyrwyr, oherwydd eu profiadau unigryw, yn datblygu lefelau dwfn o empathi. Os mai chi yw’r person hwnnw, rydych yn datblygu gallu i ddeall a chysylltu ag eraill.
Cyfoethogi diwylliant cwmni:
Mae eich amrywiaeth yn gryfder. Mae’n helpu i gryfhau diwylliant cwmni trwy feithrin creadigrwydd, arloesedd, a golwg ehangach ar y byd. Mae eich profiadau a’ch safbwyntiau unigryw yn gwneud cwmnïau’n fwy cadarn, arloesol, ac yn gallu darparu ar gyfer sylfaen cwsmeriaid amrywiol.
Mantais fyd-eang:
Cofleidiwch eich sgiliau iaith fel asedau. Yn ein byd cynyddol fyd-eang, mae bod yn ddwyieithog neu’n amlieithog, nodwedd gyffredin ymhlith myfyrwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn gaffaeliad. Mae cyfathrebu yn ymestyn y tu hwnt i iaith. Mae’n ymwneud ag empathi, gwrando gweithredol, a’r gallu i fynegi syniadau’n glir. Mae eich amser fel myfyriwr wedi eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau hyn, yn barod ar gyfer y gweithle.
Arweinyddiaeth ar waith:
Gall goresgyn anawsterau wella eich rhinweddau arweinyddiaeth a’ch galluogi i ysbrydoli ac ysgogi eraill.
Meistroli sgiliau ymarferol:
Mae eich bywyd fel myfyriwr yn antur, ac mae pob antur yn eich siapio. Trwy interniaethau, lleoliadau, a swyddi rhan-amser, rydych chi’n casglu cyfoeth o brofiad ymarferol. Mae pob prosiect academaidd rydych yn ymgymryd ag ef yn enghraifft arall o sgil trosglwyddadwy y gallwch ei gymryd yn y gweithle.
Gallu aml-dasgio:
Mae llawer o fyfyrwyr yn cael eu gorfodi i reoli amrywiaeth o ymrwymiadau a chyfrifoldebau rhwng bywyd cartref a phrifysgol neu goleg. A wyddoch eich bod yn dod yn fedrus mewn aml-dasgio yn ogystal â rheoli amser a blaenoriaethu effeithiol?
Hyrwyddwyr datrys problemau:
Mae llawer o fyfyrwyr wedi dangos sgiliau datrys problemau eithriadol trwy fynd i’r afael â rhwystrau personol a goresgyn heriau. Os ydych chi fel hyn, mae’r ffordd rydych chi’n mynd i’r afael â rhwystrau gyda dyfeisgarwch, creadigrwydd a phenderfyniad yn sgil werthfawr.
Yn dangos moeseg gref:
Mae cydbwyso gwaith cwrs heriol â swyddi rhan-amser, interniaethau, neu weithgareddau allgyrsiol yn dangos eich moeseg waith gadarn. Mae eich penderfyniad a’ch diwydrwydd yn briodoleddau a fydd yn eich gwasanaethu’n dda mewn unrhyw leoliad proffesiynol.
Rhyddhau creadigrwydd:
Yn aml gall cefndiroedd amrywiol wella creadigrwydd. Fel myfyriwr o gefndir amrywiol, byddwch yn dod â phersbectifau unigryw a sgiliau datrys problemau dychmygus a all ysgogi arloesedd a llwyddiant.
Cofiwch, mae rolau mewn timau neu gymdeithasau, gwirfoddoli, swyddi rhan-amser, a hyd yn oed cyfrifoldebau fel gofalu am eraill, i gyd yn cyfrannu at siapio eich sgiliau, ehangu eich profiad, ac ychwanegu gwerth unigryw i’r gweithle. Meddyliwch faint o’r rhain sy’n berthnasol i chi a sut y gallech eu cynnwys yn eich CV a ffurflenni cais yn y dyfodol.
Cofiwch mae eich prifysgol yn gallu darparu cymorth i chi gyda’ch CV a cheisiadau swydd.
Dywed 73% o raddedigion yng Nghymru fod mynd i’r brifysgol wedi eu galluogi i feithrin sgiliau sydd wedi bod yn werthfawr yn broffesiynol. Ac, i 73% o raddedigion a 77% o arweinwyr busnes yng Nghymru, roedd mynd i’r brifysgol wedi helpu i feithrin eu hunanhyder.
Astudiaeth Achos
Prifysgol Wrecsam
Yn 2023, dechreuodd Jo, myfyrwraig BSc Therapi Galwedigaethol yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Wrecsam, ei thaith gyda Llywiwr Cyflogadwyedd, Debbie Clifford. Ceisiodd Jo, sy’n nodi ei bod yn niwroamrywiol, LHDTC+, anabl, ac o ardal cyfranogiad AU isel, archwilio presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd, yn enwedig i’r digartref.
Dros chwe mis, darparodd Debbie gefnogaeth wedi’i theilwra, gan helpu Jo i sicrhau profiad ymarferol 4 wythnos gyda’r Cwmni Lles Cymunedol CIC. Fe wnaeth Jo hefyd nodi a mynychu tri chwrs sgiliau cyflogadwyedd, gyda’r nod o ddarparu therapi nofio dŵr agored yng Nghymru. Gan gydnabod pwysigrwydd y Gymraeg mewn gofal iechyd, dilynodd Jo astudiaethau pellach o’r Gymraeg.
Roedd effaith y cymorth hwn yn ddwys. Tyfodd hyder ac ymwybyddiaeth Jo o’r farchnad gyflogaeth, a gwnaeth gais llwyddiannus am rôl wirfoddol gyda’r Cwmni Lles Cymunedol CIC. Mae Jo wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ei hyder a’i strategaeth ar gyfer goresgyn rhwystrau cyflogaeth.
“Heb gefnogaeth yr ysgoloriaeth hon, ni allwn fforddio’r hyfforddiant hwn, sy’n fy ngwahaniaethu yn y farchnad gyflogaeth.”