Os wyt ti’n dechrau meddwl am yr hyn yr hoffet ei wneud ar ôl cwblhau dy gwrs, dyma bach o newyddion da. Yn ôl adroddiad “Jobs of the Future” Universities UK, mae disgwyl i’r galw am raddedigion prifysgol yng Nghymru gynyddu’n sylweddol erbyn 2035, yn unol â thueddiadau ar draws y DU. Mae’r twf hwn o ganlyniad i’r angen i lenwi bylchau sgiliau a mynd i’r afael a heriau gweithlu’r dyfodol. Felly, sut mae hyn yn dy effeithio di? Wel, mae’r adroddiad yn datgan bydd angen dros 400,000 yn fwy o raddedigion yng Nghymru, gyda 95% o’r swyddi newydd yma a gradd prifysgol yn ofynnol. Dyma rai o brif ganfyddiadau’r adroddiad:
- Erbyn 2035, amcangyfrifir y bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru yn gofyn am radd prifysgol.
- Ar draws y DU, bydd angen dros 11 miliwn yn fwy o raddedigion i lenwi swyddi mewn sectorau STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes.
- Ar hyn o bryd, mae gweithlu’r DU yn cynnwys 15.3 miliwn o raddedigion. Mae’r cynnydd sydd wedi ei ddarogan yn cynrychioli newid sylweddol yng ngofynion y farchnad swyddi.
- Mae disgwyl i ddyfodiad AI yn y DU greu cynnydd net o 10% o swyddi lle mae angen gradd dros yr 20 mlynedd nesaf, gan ychwanegu bron i 500,000 yn fwy o swyddi proffesiynol a gwyddonol.
Gyda thechnoleg yn datblygu mor gyflym, mae mwy na hanner o’r busnesau hynny a ofynnwyd yn credu y bydd gweithwyr angen ail hyfforddi o leiaf unwaith yn eu gyrfa. Golyga hyn fod dysgu gydol oes a’r gallu i addasu yn fwy pwysig nag erioed.
Mae’r adroddiad hwn gan Universities UK nid yn unig yn darogan cynnydd mawr yn y gofyn ar gyfer graddedigion ond hefyd yn dangos sut y mae prifysgolion Cymru yn allweddol i adeiladu sgiliau diwydiannau newydd. Drwy integreiddio’r dechnoleg fwyaf blaenllaw a dulliau addysgu arloesol, mae prifysgolion yn eich paratoi chi i ateb heriau gweithlu’r dyfodol.
Ynghyd a hyn, mae mewnwelediadau o Gyrfaoedd Cymru yn pwysleisio fod y farchnad swyddi yng Nghymru yn esblygu o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol a pholisïau’r agenda gwyrdd. Mae disgwyl i sectorau allweddol megis technoleg digidol, egni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu uwch dyfu, sy’n meddwl bydd yna alw cynyddol ar gyfer sgiliau mewn technolegau newydd ac ymarfer adnewyddadwy. Bydd addysg a hyfforddiant parhaol yn hanfodol.
Mae cyflogwyr bellach yn edrych am sgiliau megis llythrennedd digidol, datrys problemau a’r gallu i addasu. Mae’r rhain yn hanfodol er mwyn llywio dy ffordd drwy gymhlethdodau gweithleoedd cyfoes sydd wedi eu dylanwadu a’u newid gan awtomeiddio a’r trawsnewidiad digidol. Os wyt ti’n darllen hwn ar yr e-Hwb, byddi di wedi gweld gyda dy lygaid dy hun sut y mae prifysgolion yng Nghymru wedi gosod galluoedd hyn yn rhan o dy gwrs er mwyn dy baratoi di’n well ar gyfer cyfleoedd swyddi yn y dyfodol.
Drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar yr e-Hwb, mae modd i ti allu dysgu mwy am y tueddiadau swyddi diweddaraf, datblygu sgiliau perthnasol, a chysylltu â rhwydwaith cymorth sy’n ehangu dy gyfleoedd gyrfa. Nid yn unig yw hyn yn llesol i ti ond hefyd yn cyfrannu at weithlu mwy cydnerth a deinamig yng Nghymru, sy’n barod i wynebu heriau economi’r dyfodol. Dywedodd adroddiad o Newyddion y BBC yn fod y newid yn y farchnad swyddi yng Nghymru i wneud a’r math a’r ansawdd o swyddi sydd ar gael, nid niferoedd swyddi yn unig. Gall pobl ifanc sy’n meddwl am adael Cymru i ennill cyflogau uwch ganfod eu bod yn ennill mwy o fudd ariannol o aros. Mae Darogan, cwmni sy’n gweithio i atal y ‘brain drain’ wedi dangos er bod cyflogau yn uwch yn Lloegr, mae’r gost o fyw yno llawer uwch hefyd. Mae hyn yn golygu y gallwch gadw mwy o’ch incwm drwy aros yng Nghaerdydd neu Bangor er enghraifft, lle mae costau byw yn sylweddol yn is, gan ddangos fod yna fudd ariannol os ydych yn dewis i aros a gweithio’n lleol.
I grynhoi, mae’r cynnydd rhagamcanol yn y galw ar gyfer graddedigion yn gyfle arbennig i ti. Drwy ganolbwyntio ar addysg barhaus, datblygu sgiliau a defnyddio adnoddau fel y rheini sydd i’w canfod ar yr e-Hwb, mae modd i ti wneud y mwyaf o dy yrfa a helpu i adeiladu economi lewyrchus ac arloesol yng Nghymru.