Gyda chi bob cam
Mae eich tîm cyflogadwyedd gyda chi bob cam o’r ffordd, wedi ymroi i gefnogi nid yn unig datblygiad eich gyrfa ond eich lles cyffredinol, gan feithrin amgylchedd lle allech chi’ch dau dyfu a ffynnu.
Mae 75% o raddedigion Cymru yn dweud fod y gefnogaeth maent wedi ei dderbyn yn y brifysgol wedi helpu iddynt ganfod gwaith – Universities UK
Prifysgol Aberystwyth
Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa yn lefel ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau wrth ddod o hyd i gyflogaeth ar lefel graddedig yn y dyfodol. Gall myfyrwyr ymgysylltu â chyfleoedd datblygu sgiliau, gweithdai, hyfforddiant, a phrofiad gwaith, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd ag unigolion o amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau trwy sesiynau Cwrdd â’r Bobl Broffesiynol.
Prifysgol Bangor
Mae ein Tîm Cymorth Profiad Gwaith yn darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at gyfleoedd datblygu sgiliau. Mae cynghorwyr yn cynnig cymorth unigol i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer gwaith a chael mynediad at gyfleoedd sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau hyfforddi, cyflwyniadau i gyflogwyr, gweithdai, profiad gwaith, ac unrhyw gostau cysylltiedig.
Prifysgol Caerdydd
Mae Hyder o ran Gyrfa yn cefnogi myfyrwyr cymwys nad ydynt efallai’n teimlo’n hyderus ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth. Bydd y tîm yn gweithio un-i-un gyda chi i ddeall eich nodau gyrfa, ymrwymiadau, ac argaeledd i greu cynllun datblygu wedi’i deilwra, yn cynnwys cymorth cyflogadwyedd a phrofiad gwaith pwrpasol wedi’i deilwra i gwrdd â’ch anghenion.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae ein tîm o Hyfforddwyr Gyrfaoedd profiadol wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau cyflogadwyedd fel y gallant gystadlu am swyddi cynaliadwy o safon ar ôl graddio. Mae’r sesiynau’n cael eu personoli i’ch anghenion cyflogadwyedd unigol. Dechreuwch eich taith datblygu gyrfa heddiw trwy drefnu apwyntiad gydag un o’n tîm cyfeillgar.
Grŵp Llandrillo Menai (GLlM)
Mae gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr GLlM yn cefnogi ein myfyrwyr addysg uwch trwy ddarparu cyfleoedd ychwanegol i ddatblygu sgiliau a hyder, a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar gamu ymlaen i gyflogaeth lefel graddedig. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp ac unigol megis gweithdai, mentora, cynllunio gyrfa, profiad gwaith, a gweithgareddau menter. Gall ein myfyrwyr hefyd gwrdd â phobl amrywiol o fusnesau trwy’r sesiynau ‘Cwrdd â’r Bobl Broffesiynol’.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein prif Dudalen Cyflogadwyedd a Menter, gyda gwybodaeth benodol am Ddyfodol Myfyrwyr o dan ‘Help i gael y swydd yna!’
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Datblygwch eich hyder a gwella’ch rhagolygon gyda’r Brifysgol Agored. Mae rhaglen Go Wales wedi’i theilwra i gwrdd ag anghenion unigol myfyrwyr cymwys. Byddwch yn cael cymorth hyfforddi a mentora un-i-un gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda: cynllunio gyrfa, paratoi CV a fydd yn denu sylw, cyfarfod â chyflogwyr, dod o hyd i brofiad gwaith a chael mynediad at hyfforddiant a gweithdai.
Prifysgol Abertawe
Rydym yn deall bod yr argyfwng costau byw presennol yn anodd i lawer o fyfyrwyr Abertawe. Gwnaethon ni greu prosiect newydd a chyffrous o’r enw Hwb Gyrfaoedd i roi cymorth gyrfaoedd wedi’i deilwra i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i brofiad gwaith a chyfleoedd. Rydyn ni yma i’ch helpu i gymryd rheolaeth o’ch dyfodol a chael mynediad at brofiad gwaith, digwyddiadau a chyfleoedd eraill efallai nad ydych yn teimlo y gallwch gymryd mantais ohonynt ar hyn o bryd.
Cefnogaeth ychwanegol
Geirfa
Busnesau sy’n Cynnig Cyfleoedd
Prifysgol De Cymru
Gall Gyrfaoedd PDC eich cefnogi i ddatblygu eich hyder gyrfa a nodi a dangos eich cryfderau i gyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i gael mynediad at swyddi a chyfleoedd profiad gwaith e.e. costau teithio, help gydag addasiadau rhesymol neu ddod o hyd i opsiynau hyblyg. Mae gennych hefyd fynediad at amrywiaeth eang o gymorth gyrfaoedd gan gynnwys mynediad at ddigwyddiadau, hyfforddiant neu arweiniad un i un ar gyfer unrhyw help unigol y gallai fod ei angen arnoch. Am help neu ragor o wybodaeth gan Gyrfaoedd PDC cysylltwch â ni.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwasanaeth Gyrfaoedd PCYDDS sy’n rhedeg y prosiect profiad gwaith i fyfyrwyr ar gampysau Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael cymorth cyflogadwyedd a mynediad at gyfleoedd profiad gwaith, cysylltwch â ni drwy ein gwefan:
Prifysgol Wrecsam
Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Llyw-wyr Cyflogadwyedd yn cefnogi myfyrwyr i gael mynediad at ymyriadau perthnasol sy’n ceisio gwella eu sgiliau cynllunio gyrfa a chyflogadwyedd. Mae hyn yn cynnwys cynllunio gyrfa, gosod nodau, cyngor am wirfoddoli, dileu rhwystrau i gyflogaeth, llwybrau at gyrsiau ac adnoddau addysg gyrfaoedd ar-lein, cyfeirio at wasanaethau ychwanegol yn y brifysgol a’r posibilrwydd o gael Bwrsariaeth i gefnogi a gwella eu cyfleoedd cyflogaeth unigol.